"Fy mhrofiadau yng Nghymru"
Annette Strauch, sy'n wreiddiol o'r Almaen ond bellach yn byw ym Machynlleth.
Ymwelais i â Chymru yn gyntaf pan oeddwn i'n ugain oed achos ymchwil yn yr Amgueddfa Werin. Es i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda S. Minwel Tibbott yn Aberystwyth, arbennigwraig mewn bwyd yng Nghymru. Cwrddais i â Robin Gwyndaf yno a dysgais am chwedlau Cymreig. Astudiais i Ethnoleg Ewropeaidd, hefyd Saesneg ym Mhrifysgol Georg-August Göttingen. Dysgais i Gymraeg fy hun a dechreuais i ddarllen nofelau a straeon o Gymru.
Tywydd Cymru
Dwi ddim yn licio'r glaw yng Nghymru trwy'r amser o gwbl. Mae popeth yn edrych yn drist iawn i fi. Fy hoff lefydd yw traeth Aberdyfi, Sir Benfro, Canton /Caerdydd. Hefyd rwy'n hoffi'r mynyddoedd. Un o fy niddordebau ydy Nordic walking. Mae bywyd yn costio llawer yng Nghymru. Mae hiraeth am y cyfandir ac eira nawr. Rwy'n colli siopau neis a llefydd spa. Yn ddiweddar, es i'r Eidal, Sbaen, Ffrainc, Hwngari, Latvia.